Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Gwastadeddau Gwent


08 gogledd Redwick


08 ardal gymeriad gogledd Redwick: tirwedd eithaf syml, yn cynnwys ystad Abaty Tyndyrn yn Grangefield. (Ffoto: GGAT Gwent Levels 028)

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

Cefndir Hanesyddol

Mae'n debyg i'r ardal hon gael ei hamgáu a'i draenio tua'r drydedd neu'r bedwaredd ganrif ar ddeg.

Fferm a oedd yn eiddo i fynachod Abaty Tyndyrn oedd Grangefield. Amgaewyd a draeniwyd yr ardal i'r dwyrain, a elwid yn "Black Moores", ganddynt, yn y drydedd neu'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ôl pob tebyg.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Unffurfiaeth, ystod gyfyngedig o nodweddion, cloddwaith - maenor fynachaidd, ffin fynachaidd, patrwm caeau rheolaidd, lonydd syth heb wastraff, aneddiadau gwasgaredig ar y cyrion, nodweddion draenio (ffosydd draenio, cefnennau/draeniau agored, system o afaelion)

Ardal ychydig yn is a leolir i mewn i'r tir o ardal arfordirol Redwick. Yn ffinio â hi mae Whitson (ardal 3) i'r gorllewin, Green Moor Wall/Rush Wall i'r gogledd (ardal 9), ac Ffosydd Ynys Mead/Mere i'r de (ardaloedd 6 a 7).

Nodweddir yr ardal hon o dirwedd gan ei hunffurfiaeth a'r ystod gyfyngedig o nodweddion tirwedd; patrwm rheolaidd o ffiniau caeau, a nifer gymharol fach o lonydd, pob un ohonynt yn syth a heb wastraff ymyl ffordd, a nifer fach iawn o aneddiadau. Dim ond tair fferm anghysbell, pob un ohonynt ar y cyrion (sef Ffermydd Grangefield, Greenmoor a Greenfield) sydd yn yr ardal.

Mae gwrthgloddiau fferm Abaty Tyndyrn wedi goroesi gerllaw Grangefield, ac maent yn gofrestredig. Mae ychydig o olion clawdd wedi goroesi ar hyd Ffos Mere (y gair am ffin yn Hen Saesneg), sef y ffin rhwng caeau agored Redwick yn Broadmead (ardal 7) a Thiroedd Abaty Tyndyrn i'r gogledd yn ôl pob tebyg. Ceir rhai systemau o afaelion sydd wedi'u cadw mewn cyflwr da, yn arbennig i'r dwyrain o Grangefield.

Mae'r dirwedd o amgylch Grangefield o bwys mawr yn hanesyddol oherwydd ei chysylltiadau mynachaidd, ac mae iddi werth grwp uchel; mae'r ardal hon mewn tipyn gwell cyflwr na gweddill ardal 8.

Er bod y cyfan o'r rhandir hwn o dirwedd wedi goroesi, ac er ei fod yn gydlynus iawn (yn arbennig o amgylch Grangefield), mae wedi colli ei gyfanrwydd i raddau oherwydd dulliau ffermio dwys y cyfnod modern.

Er bod yr ardal gymeriad hon yn gyfan i raddau helaeth, mae rhannau ohoni mewn cyflwr gwael wedi iddynt gael eu haredig ar raddfa fawr ac wedi i wrychoedd gael eu clirio. Mae pen pellaf y rhan orllewinol mewn gwell cyflwr, lle y ceir gwrychoedd prysglog gan mwyaf, a rhai sy'n llawn coed.

Fodd bynnag, mae'r ardal hon yn bwysig fel clustogfa rhwng y datblygiadau diwydiannol a masnachol i'r gogledd, a'r dirwedd i'r de sydd wedi'i chadw mewn cyflwr gwell ac sy'n fwy diarffordd. Er nad yw natur agored iawn y dirwedd yn cuddio'r Gwaith Dur na datblygiadau Gwent Europark o'r golwg ryw lawer ar hyn o bryd, gallai hyn newid.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwlwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk